13 Mai 2019

Cyflwyniad Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru i:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Ymchwiliad i'r ddarpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol yn yr ystad carchardai i oedolion

Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yw'r corff proffesiynol sy'n cynrychioli aelodau unigol o'r proffesiwn fferylliaeth o bob lleoliad a sector. Oherwydd hynny, rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i alwad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dystiolaeth ar y ddarpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol yn yr ystad carchardai i oedolion.

Mae'r RPS yng Nghymru wedi bod yn gefnogol mewn egwyddor i'r newidiadau a drosglwyddodd y cyfrifoldeb am ddatblygu gofal iechyd carchardai o'r Swyddfa Gartref i GIG Cymru yn 2006. Rydym yn cydnabod bod y cyfrifoldeb hwn yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi ac yn cefnogi'n llawn brif nod y bartneriaeth hon i ‘ddarparu mynediad i'r un ansawdd ac ystod o wasanaethau gofal iechyd ag y mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn eu derbyn gan y GIG yng Nghymru’[1].

Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar rôl y proffesiwn fferylliaeth ym maes gofal iechyd carchardai a sut y gall ac y dylai fferyllwyr a'u timau staff gefnogi pobl yn y carchar â'u cyflyrau iechyd a'u hanghenion iechyd.  Rydym wedi ymgynghori â'n haelodau sy'n gweithio gyda phoblogaeth y carchardai er mwyn deall y pwysau, y rhwystrau a'r cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau fferylliaeth a gyflenwir ar draws yr ystâd carchardai i oedolion.

Mae'n dda gennym ymateb i'r meysydd allweddol dilynol sy'n cael eu hystyried gan yr ymchwiliad hwn:

1.     Effeithiolrwydd y trefniadau presennol o ran cynllunio gwasanaethau iechyd ar gyfer carcharorion yng Nghymru a llywodraethu gwasanaethau iechyd a gofal carchardai, gan gynnwys a oes goruchwyliaeth ddigonol. 

Mae cyflenwi gwasanaethau gofal iechyd mewn amgylcheddau carchar yn gymhleth ac mae'n galw am sylw sylweddol a chynllunio cynhwysfawr. O safbwynt fferylliaeth dylid cydnabod, pan fydd meddyginiaethau'n cael eu defnyddio a'u bod yn ofynnol mewn amgylchedd diogel, y bydd risgiau cynhenid bob amser i ddiogelwch cleifion ac i ddiogelwch staff gofal iechyd. Felly mae'n hanfodol bod y gwasanaethau cywir yn cael eu cynllunio'n effeithiol ac y buddsoddir ynddynt.

Roedd trosglwyddo cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd gan y Swyddfa Gartref i GIG Cymru yn 2006 yn cynnig y cyfle i ddatblygu gwasanaethau fferylliaeth wedi'u seilio ar ofal sylfaenol sy'n canolbwyntio'n fwy ar gleifion i boblogaeth y carchardai yng Nghymru yn seiliedig ar angen a nodwyd. Fodd bynnag, rydym yn credu nad yw'r cyfle hwn wedi'i wireddu'n llawn eto yng Nghymru.

Rydym yn credu bod angen rhoi mwy o sylw i ofal iechyd carchardai yng Nghymru er mwyn sicrhau goruchwyliaeth glir a chyfeiriad strategol ar gyfer datblygu rheoli meddyginiaethau a gwasanaethau fferylliaeth carchardai yn yr ystad carchardai i oedolion. Mae'r cwmpas ar gyfer gwella cynllunio a llywodraethu gofal iechyd carchardai yng Nghymru yn enfawr ac mae angen mynd i'r afael â nifer o faterion cymhleth. Er enghraifft, mae camddefnyddio meddyginiaethau, cyffuriau rheoledig a sylweddau seicoweithredol yn yr ystad carchardai ynghyd ag ymddygiadau ceisio cyffuriau yn bryderon sylweddol nid yn unig i boblogaeth y carchardai ond i fferyllwyr ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd. Mae masnachu a dargyfeirio meddyginiaethau rhagnodedig a'r peryglon i unigolion o'r arfer hwn yn risg arall sydd angen sylw. Hefyd, dylai diogelwch staff mewn amgylcheddau diogel fod yn hollbwysig bob amser ac mae angen gweithdrefnau gweithredu safonol i warchod staff gofal iechyd ac i sicrhau y cyflenwir gofal o ansawdd uchel.

Rydym yn credu y gellid gwneud llawer mwy ar lefel strategol genedlaethol i fynd i'r afael â'r materion cymhleth sy'n gynhenid wrth gyflenwi gwasanaethau gofal iechyd diogel ac effeithiol yn yr ystad carchardai i oedolion. Rydym yn credu y byddai strategaeth genedlaethol sy'n cynnwys safonau a llywodraethu yn helpu i wella gofal iechyd carchardai yng Nghymru, gan gynnwys safonau penodol ar gyfer fferylliaeth carchardai. Hefyd rydym yn deall mai dim ond un swyddog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am ofal iechyd carchardai fel rhan o bortffolio llawer ehangach. Byddem yn dadlau bod angen arweinyddiaeth benodedig yn ofynnol erbyn hyn ar lefel genedlaethol ar gyfer gofal iechyd carchardai er mwyn sicrhau mwy o ffocws ar y maes pwysig hwn o gyflenwi gofal iechyd.

Mae'r sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran cynllunio a llywodraethu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth y carchardai yn wahanol iawn i ddatblygiadau yn Lloegr. Mae GIG Lloegr wedi buddsoddi mewn ymagwedd strategol genedlaethol gydlynol i ddatblygu gwasanaethau gofal iechyd carchardai[2]. Mae hyn yn cynnwys strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gofal iechyd carchardai, systemau cadarn sy'n darparu goruchwyliaeth strategol effeithiol, llywodraethu a chynllunio i sicrhau effeithiolrwydd, ansawdd a diogelwch parhaus wrth gyflenwi gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys gofal fferyllol. Mae hefyd yn cynnwys sefydlu un fanyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd carchardai ac atodiad safonau meddyginiaethau ar gyfer pob amgylchedd diogel, gan gynnwys carchardai EM.

Mae'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi cyhoeddi safonau proffesiynol ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau mewn amgylcheddau diogel[3] er mwyn cefnogi comisiynu a datblygu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel sy'n rhoi cleifion a'u hanghenion yn gyntaf. Er bod y safonau hyn wedi'u hanelu at wasanaethau a ddarperir yn Lloegr, gallant fod yr un mor berthnasol yng Nghymru. Mae'r safonau'n annog ymagwedd amlddisgyblaethol rhwng fferylliaeth, gofal iechyd a'r gweithlu gwarchodol i sicrhau bod diogelwch ac optimeiddio meddyginiaethau yn dod yn 'fusnes pawb’.  Cyfeirir at y safonau yma er mwyn amlygu meysydd llywodraethu, cynllunio a chyflenwi gwasanaethau rydym yn credu mae angen eu mabwysiadu yng Nghymru.

Rydym yn argymell y dylid cymryd camau yng Nghymru i sefydlu systemau llywodraethu effeithiol a chadarn a goruchwyliaeth strategol fel y rhai a ddarperir yn Lloegr ar gyfer gofal iechyd carchardai.

Rydym yn argymell ymagwedd gyson ar draws yr ystad carchardai i gyflogi tîm strategol GIG Cymru o weithwyr proffesiynol gofal iechyd amser llawn, â chymorth gweinyddol priodol i ddarparu goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth genedlaethol i ofal iechyd carchardai yng Nghymru. Rhaid i'r tîm gynnwys prif fferyllydd carchardai neu gyfarwyddwr cyfatebol ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau mewn carchardai.

Rydym yn argymell ystyried Safonau Proffesiynol yr RPS ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau ar gyfer pobl mewn amgylcheddau diogel wrth ddatblygu ymagweddau strategol cenedlaethol at ofal fferyllol mewn lleoliadau carchar yng Nghymru.

 

2.     Y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngharchardai Cymru, ac a yw gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion carcharorion ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd pobl a gedwir mewn carchardai yng Nghymru. 

Rydym yn ymwybodol bod poblogaeth y carchardai yn wynebu'r un heriau iechyd a gofal cymdeithasol a geir mewn cymdeithas ehangach gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, y cynnydd mewn cyflyrau anhrosglwyddadwy a hirdymor, ac aml-afiachedd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod amgylchedd y carchardai a phoblogaeth y carchardai yn cyflwyno heriau sylweddol o ran cyflenwi gwasanaethau fferylliaeth mewn lleoliadau carchar. Yn arbennig, mae hyn yn cynnwys materion cynhenid ynghylch diogelwch personol, ymddygiadau ceisio cyffuriau, camddefnyddio meddyginiaethau presgripsiwn, a chrynhoad o bolyfferylliaeth gymhleth sydd ei angen oherwydd mynychder uchel diagnosis deuol o gyflyrau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ynghyd â chyflyrau hirdymor.

Mae llawer o'r cyflyrauau y mae'n rhaid eu trin a'u cefnogi gan fferyllwyr yn y lleoliadau cymuned ac ysbyty, yn aml yn cael eu gorliwio gan amgylchedd y carchar a maent yn anghymesur â'r boblogaeth gyffredinol. Mae camddefnyddio alcohol a sylweddau yn ogystal â chyflyrau iechyd meddwl, er enghraifft, yn feysydd sy'n cyflwyno heriau sylweddol i ofal iechyd carchardai ac i'r tîm fferylliaeth.

Fe amlygodd yr asesiad anghenion iechyd diweddaraf o ofal iechyd carchardai gan Iechyd Cyhoeddus Cymru raddfa'r heriau sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd mewn carchardai[4]. Er enghraifft, fe nododd y bydd oddeutu 1,200 o bobl mewn carchardai yng Nghymru yn dioddef o anhwylder niwrotig, megis gorbryder, iselder ysbryd ac anhwylder straen wedi trawma, sydd angen triniaeth ffarmacolegol, hunangymorth a chymorth seicolegol. Fe wnaeth yr un adroddiad nodi bod oddeutu 1,800 o unigolion yng ngharchardai Cymru wedi profi problemau ynghylch yfed gormod yn y flwyddyn flaenorol, a bydd oddeutu'r un nifer (heb fod yn annibynnol ar ei gilydd) wedi bod yn defnyddio un o'r chwe phrif grŵp cyffuriau (canabis, heroin, methadon heb ei ragnodi, amffetaminau, crac, cocên) yn y flwyddyn cyn mynd i'r carchar. Mae nifer y bobl yn y carchar sydd ag anhwylderau oherwydd camddefnyddio sylweddau hefyd yn ychwanegu at y crynhoad o gyflyrau sy'n galw am reolaeth a chymorth glinigol.

Nododd yr adroddiad Iechyd Cyhoeddus ar y pryd, er bod canllawiau NICE ar gael i gefnogi penderfyniadau triniaeth, efallai na fyddent yn gwbl gymwys i amgylchedd y carchardai. Ers yr adroddiad hwnnw, mae NICE wedi cyhoeddi Safon Ansawdd ar gyfer iechyd corfforol pobl mewn carchardai[5] sy'n cynnwys dau ddatganiad ansawdd penodol sy'n ymwneud â chymodi meddyginiaethau[6] a meddyginiaethau wrth drosglwyddo neu ryddhau[7]. Rydym yn dadlau y dylid mabwysiadu'r safonau hyn yn gyson ar draws yr ystad carchardai yng Nghymru i ddarparu fframwaith cadarn a fabwysiadir yn genedlaethol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth wneud penderfyniadau clinigol a barnau clinigol.

Yn gyffredinol, ymddengys fod y baich clefyd ymysg poblogaeth y carchardai yn fwy na baich y boblogaeth gyffredinol mewn cymdeithas. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw'n bosibl asesu galw yn hyderus ac yn gywir ymhlith poblogaeth y carchardai yng Nghymru oherwydd diffyg mesur cyson o alw. Roedd yr asesiad diweddaraf o anghenion iechyd y gallem ei ganfod dros chwe blynedd yn ôl.

Rydym yn credu bod asesiadau cadarn o anghenion iechyd poblogaeth y carchardai yn hollbwysig ar draws yr ystad carchardai er mwyn asesu galw ac i gyfrannu at brosesau cynllunio byrddau iechyd. Rydym yn credu y dylid mabwysiadu ymagwedd strategol genedlaethol, ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael adnoddau i gynnal asesiadau cadarn o anghenion iechyd ar gyfer pob carchar yng Nghymru yn rheolaidd, o leiaf bob tair blynedd.

Rydym yn argymell y dylid gwneud trefniadau i sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain asesiadau cenedlaethol rheolaidd o anghenion iechyd ar draws yr ystad carchardai a'u bod yn cael eu bwydo i benderfyniadau cynllunio byrddau iechyd lleol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol carchardai.

Rydym yn argymell bod canllawiau a safonau gan gynnwys Safonau Ansawdd NICE a safonau proffesiynol RPS ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau mewn amgylcheddau diogel yn cael eu mabwysiadu i sicrhau cysondeb a thegwch wrth ddarparu gwasanaethau fferylliaeth i boblogaeth y carchardai ar draws yr holl safleoedd carchar yng Nghymru.

3.     Beth yw'r pwysau presennol ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys materion a gwasanaethau'r gweithlu, megis iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, gofal sylfaenol y tu allan i oriau, a materion sy'n ymwneud â gofal eilaidd, wedi'i seilio mewn ysbytai, ar gyfer carcharorion

Mae cyflenwi gwasanaethau gofal iechyd yng ngharchardai Cymru yn dioddef oherwydd heriau sylweddol yn y gweithlu. Er mwyn datrys pwysau ar y gweithlu yng ngharchardai Cymru, mae'n hanfodol bod gofal iechyd yn y carchar yn dilyn yr un model o ofal amlddisgyblaethol ac egwyddorion gofal iechyd darbodus a fabwysiadwyd ar draws y GIG yng Nghymru fel a arweiniwyd gan Gymru Iachach, cynllun strategol 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a chymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn credu bod angen ail-fynd i'r afael â'r model a arweinir gan nyrsys ac sydd wedi'i hyrwyddo mewn gofal iechyd yn y carchardai dros y degawdau diwethaf, a'i ailffocysu ar y model gofal amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol poblogaeth y carchardai yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn credu bod angen model newydd o arweinyddiaeth glinigol ar draws yr ystad carchardai yng Nghymru, gan sicrhau ffocws clir ar ofal clinigol a rhannu'r llwyth gwaith clinigol yn briodol ar draws cymysgedd sgiliau llawn y tîm amlddisgyblaethol.  Oherwydd y nifer uchel o feddyginiaethau a ddefnyddir mewn lleoliadau carchar, rhaid i fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol gael eu hintegreiddio'n llawn i unrhyw fodel gofal amlddisgyblaethol ar gyfer gofal iechyd mewn carchardai, gan sicrhau bod eu sgiliau'n cael eu harneisio wrth wneud penderfyniadau clinigol a darparu gofal o ansawdd uchel.

Mae angen model bio-seicogymdeithasol o ofal, a gyflenwir gan dîm amlddisgyblaethol i fynd i'r afael yn ddigonol â'r materion mwyaf cyffredin a heriol sy'n wynebu fferyllwyr a'r tîm gofal iechyd ehangach mewn lleoliadau carchar; Iechyd meddwl, anableddau dysgu a chamddefnyddio sylweddau. Mae cynnwys fferyllwyr yn hanfodol mewn ymagwedd dîm o'r fath er mwyn helpu i optimeiddio cyfundrefnau meddyginiaeth ac i reoli'r broses o dynnu cyffuriau yn ôl a lleihau meddyginiaethau rhagnodedig lle nodir yn glinigol (dad-ragnodi). Mae rôl fferyllwyr wrth ragnodi therapi amnewid opioid mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau cymunedol yn cael ei gydnabod yn dda a dylid ei ailadrodd ar draws y carchardai.

Mae cyflenwi gofal sylfaenol a gofal y tu allan i oriau mewn lleoliadau carchar hefyd yn faes sydd yn barod i'w ddatblygu. Rydym eisoes yn gweld ehangiad sylweddol yn rôl fferyllwyr cymunedol ledled Cymru o ran rheoli anhwylderau cyffredin a darparu gwasanaethau gwell a datblygedig yn y gymuned a chredwn fod rhaid i gyfleoedd tebyg fod ar gael i boblogaeth y carchardai. Byddai hyn yn ychwanegol at y rolau gofal ataliol a hybu iechyd y gallai timau fferylliaeth eu darparu hefyd mewn lleoliadau carchar.

Mae gofal eilaidd wedi'i leoli mewn ysbytai yn her i garchardai yn arbennig pan fydd meddyginiaethau'n cael eu cychwyn heb ddeall mynychder anhwylderau defnyddio sylweddau o fewn poblogaeth y carchardai ac felly'r risg i gleifion. Gall fferyllwyr a'u timau gefnogi'r broses hon, yn arbennig gyda'r model gofal integredig sy'n bodoli o fewn byrddau iechyd lleol. Fodd bynnag, er mwyn i hyn ddigwydd mae angen staff fferylliaeth digonol o fewn carchardai sy'n debyg i lefelau staffio yng Ngharchar EM Berwyn.

Rydym yn ymwybodol bod gan dimau fferylliaeth drosiant staff uchel hefyd oherwydd diffyg cyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa. Mae trosiant hefyd yn cael ei waethygu gan yr elfen o risg bersonol o weithio mewn amgylchedd diogel. Rydym yn credu bod angen ymagwedd strategol tuag at ddatblygu'r gweithlu fferyllol a'r tîm gofal iechyd ehangach sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau gofal iechyd mewn carchardai.

Rydym yn argymell , fel rhan o gynnydd mewn cyllid ar gyfer gofal iechyd carchardai yng Nghymru, y dylai ailgynllunio llwyr o ddarpariaeth gwasanaeth iechyd yng ngharchardai Cymru ddigwydd.  Rhaid i'r dyluniad newydd fod yn seiliedig ar dîm amlddisgyblaethol sydd ag adnoddau llawn, gan gynnwys nifer fawr o staff fferyllol, a fydd yn rhoi cadernid i ansawdd well o ofal o fewn y gwahanol wasanaethau gofal iechyd mewn carchardai a gyflenwir gan dîm amlddisgyblaethol.

Rydym yn argymell mae gofynion gweithlu'r tîm gofal iechyd, gan gynnwys staff fferylliaeth, yn cael eu hadolygu ar draws yr ystad carchardai er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion gofal iechyd yn briodol a bod yn gyfwerth â Charchar EM Berwyn.

4.     Pa mor dda mae carchardai yng Nghymru yn diwallu anghenion iechyd a chymdeithasol cymhleth poblogaeth gynyddol o bobl hŷn yn y carchar, a pha welliannau posibl y gellid eu gwneud i wasanaethau cyfredol. 

O safbwynt fferylliaeth mae'r cynnydd yn y boblogaeth sy'n heneiddio mewn carchardai gyda newidiadau demograffig sy'n gyfochrog â gweddill y boblogaeth yn cynyddu pwysau ar drin cyflyrau hirdymor. Mae'r angen cynyddol am reoli polyfferylliaeth (meddyginiaethau lluosog) a'r galwadau i gadw pobl yn sefydlog ac yn iach am gymaint o amser â phosibl ac allan o'r system ysbytai lle bynnag y bo modd yn rhoi pwysau cynyddol ar y tîm fferyllol a thîm gofal iechyd ehangach y carchar.

Fel y'i crybwyllwyd yn flaenorol, mae poblogaeth y carchardai yn un sy'n heneiddio a chyda'r cyllid gan Lywodraeth y DU bron yn sefydlog ar gyfer gofal iechyd mewn carchardai yng Nghymru dros y blynyddoedd blaenorol, nid yw anghenion pobl hŷn yng ngharchardai Cymru yn cael eu diwallu. Mae'r un heriau'n bodoli wrth recriwtio meddygon teulu i weithio mewn carchardai fel sydd yn y gymuned. Yma nid yn unig y byddai fferyllwyr yn gallu cefnogi gofal pobl hŷn sydd â chyflyrau hirdymor yn gyffredinol, ond â'u harbenigedd ychwanegol wrth reoli meddyginiaethau, gallent gael effaith enfawr ar broblem polyfferylliaeth yn y boblogaeth.

Yn ogystal â hyn gyda'r cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y ddalfa oherwydd achosion naturiol, mae gofyniad naturiol am ofal diwedd oes a darpariaeth amserol diogel ac effeithiol o feddyginiaethau. Mae llawer o'r meddyginiaethau hyn yn gyffuriau rheoledig sydd angen eu rheoli'n ofalus. Mae staff fferylliaeth[8]yn rhan annatod o ddefnyddio cyffuriau rheoledig i sicrhau y gall pobl farw ag urddas yn y carchar.

Rydym yn argymell , yn debyg i'r model o gyflogi fferyllwyr i gefnogi cyflenwi gofal iechyd mewn meddygfeydd cymunedol, y dylid gweithredu'r un peth o fewn carchardai, yn arbennig i wella gofal pobl hŷn.

5.     A oes digon o adnoddau ar gael i ariannu a chyflenwi gofal yn ystâd carchardai Cymru, yn benodol a oes angen adolygu'r gyllideb sylfaenol ar gyfer gofal iechyd carcharorion ar draws y Bwrdd Iechyd Lleol. 

Rydym yn deall, ar gyfer carchardai yn Ne Cymru, bod y gyllideb sylfaenol ar gyfer gofal iechyd carcharorion yn galw am gynnydd enfawr er mwyn caniatáu am gyflenwi gofal yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg o garchardai o faint a natur debyg yn Lloegr lle mae cyllid wedi cael ei ysgogi gan ddadansoddiadau cadarn o anghenion iechyd ac felly wedi cynyddu'n rheolaidd o ystyried yr anghenion cynyddol a nodwyd mewn gofal iechyd y rhai hynny ym mhoblogaeth y carchardai.

Rydym yn argymell codiad llwyr mewn adolygiad cenedlaethol o'r gyllideb ar gyfer cyllid gofal iechyd mewn carchardai o fewn gofal iechyd yng Nghymru ar gyfer sefydliadau unigol, wedi'i lywio gan asesiadau cadarn o anghenion iechyd ac i ganiatáu am greu tîm gofal iechyd strategol GIG Cymru ar gyfer carchardai.Gwerthusiad o anghenion datblygu gwasanaeth.

 

6.     Beth yw'r rhwystrau presennol i wella system gofal iechyd y carchardai a chanlyniadau iechyd poblogaeth y carchardai yng Nghymru. 

Rydym wedi cyfeirio at lawer o'r prif rwystrau o absenoldeb unrhyw strategaeth genedlaethol neu broses o lywodraethu gofal iechyd carchardai gan Lywodraeth Cymru drwodd i wasanaeth gofal iechyd mewn carchardai heb adnoddau digonol sy'n galw am weithlu amlddisgyblaethol i ofalu am y boblogaeth o oedolion mewn carchardai yng Nghymru.

Un rhwystr allweddol arall sy'n weddill nad yw wedi'i archwilio yw'r rhyngwynebau lluosog a wynebir gan bobl yn y carchar. Yng Nghymru, nid yw cofnod clinigol pobl yn y carchar yn cysylltu â'u cofnod meddyg teulu na'u cofnodion ysbyty. O safbwynt fferylliaeth, mae hyn yn rhwystro arfer da ar gyfer rheoli meddyginiaethau wrth i bobl drosglwyddo o'r gymuned i leoliadau carchar ac i'r gwrthwyneb. Mae'r diffyg cysylltedd rhwng gofal iechyd y carchar a'r sector ysbytai hefyd yn creu heriau sylweddol o ran optimeiddio meddyginiaethau pan fydd angen gofal acíwt mewn ysbyty.

Rydym yn credu bod gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu rhwng timau gwarchodaeth a gofal iechyd/fferylliaeth yn hanfodol i ddarparu trosglwyddiadau gofal di-dor a diogel, yn arbennig pan fydd angen cyffuriau rheoledig a meddyginiaethau hanfodol. Nod safonau'r RPS ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau mewn amgylcheddau diogel yw sicrhau bod gan bobl fynediad at gyflenwad o feddyginiaethau ar ôl iddynt adael y lleoliad carchar a'u bod yn cael gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch eu meddyginiaethau sydd hefyd yn cael ei defnyddio i lywio eu hanghenion parhaus am feddyginiaethau (Safonau 12 a 13)[9].

Rydym yn argymell bod gofal iechyd mewn carchardai yn elwa ar gael mynediad i'r un bensaernïaeth TG sydd ar gael yn y gymuned ac integreiddio'r cofnod clinigol SystmOne® a ddefnyddir ar gyfer pobl yn y carchar â Phorth Clinigol Cymru ynghyd â systemau ehangach meddygon teulu ac ysbytai.

 

Rydym yn gobeithio bod yr ymateb hwn yn ddefnyddiol i'r ymchwiliad i'r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystad carchardai i oedolion. Byddem yn croesawu'r cyfle i ymhelaethu ar unrhyw ran o'n tystiolaeth a'n hargymhellion cysylltiedig.

Yn olaf, rydym wedi bod yn falch iawn o weld bod y pwyllgor wedi cael y cyfle i weld carchardai yng Nghymru, oherwydd yng ngeiriau Nelson Mandela: “Nid oes neb yn wir adnabod cenedl hyd nes ei fod wedi bod y tu mewn i'w charchardai. Ni ddylid barnu cenedl yn ôl y ffordd mae'n trin ei dinasyddion uchaf ond ei rhai isaf.” Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli gwaith da'r pwyllgor i sicrhau bod y ddarpariaeth o ofal i'r rhai sy'n cael eu carcharu yng Nghymru yn cael adnoddau digonol.

Yr eiddoch yn gywir

 

Suzanne Scott-Thomas FRPharmS

Cadeirydd, Bwrdd Fferylliaeth Cymru RPS



[1] E-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru: http://www.wales.nhs.uk/governance-emanual/healthcare-services-for-prisoners

[2] Cytundeb Partneriaeth Cenedlaethol GIG Lloegr (2018) ar gyfer Gofal Iechyd Carchardai yn Lloegr https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/767832/6.4289_MoJ_National_health_partnership_A4-L_v10_web.pdf

 

[3] Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (2017) Safonau Proffesiynol ar gyfer Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer pobl mewn amgylcheddau diogel : https://www.rpharms.com/recognition/setting-professional-standards/optimising-medicines-in-secure-environments

[4] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2013) Asesiad o Anghenion Iechyd Carchardai: Adolygiad thematig yr Adroddiad Technegol 2013: anghenion a darpariaeth iechyd meddwl ar draws ystâd carchardai Cymru: http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/457/MHNA%20Technical%20report%20v1.3%20%28Final%29.pdf

[5] NICE (2017) Datganiad Ansawdd QS156 Iechyd corfforol pobl mewn carchardai: https://www.nice.org.uk/guidance/qs156/chapter/Quality-statements

[6] NICE (2017) Datganiad Ansawdd 1: Cymodi meddyginiaethau: https://www.nice.org.uk/guidance/qs156/chapter/quality-statement-1-medicines-reconciliation#quality-statement-1-medicines-reconciliation

[7] NICE (2017) Datganiad Ansawdd 5: Meddyginiaethau wrth drosglwyddo neu ryddhau: https://www.nice.org.uk/guidance/qs156/chapter/Quality-statement-5-Medicines-on-transfer-or-discharge

[8] Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru (2018) Astudiaethau Achos Gofal Lliniarol a Diwedd Oes https://www.rpharms.com/Portals/0/RPS%20document%20library/Open%20access/RPS%20Wales%20Palliative%20and%20End%20of%20Life%20Care%20Policy.pdf?ver=2018-11-21-144220-053

[9] Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (2017) Safonau Proffesiynol ar gyfer Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer pobl mewn amgylcheddau diogel : https://www.rpharms.com/recognition/setting-professional-standards/optimising-medicines-in-secure-environments